Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(vi) Gwreiddioldeb y Gwaith. Wrth farnu'r meddyliau a'r teimladau a fynegir, y cynllun a ddilynir, a'r modd y gwneir y gwahanol adrannau'n is-wasanaethgar i'r diweddglo a gyrhaeddir, gellir darganfod ai gwreiddiol ai efelychiad yw'r gwaith, a red y ffrwd o ffynnon y mynydd neu o lyn y gwastadedd.

Cymer Beirniaid Llenorol diweddar bob gwaith newydd i'w law â meddwl agored, yn barod i dderbyn unrhyw argraffiadau a fynno'r awdur eu gwneuthur arnynt, heb ragfarn o gwbl yn erbyn y newydd nac yn ffafr yr hen. Gwyddant oll nad yw hyd yn oed Homer a Fyrsil, Dante a Shakespeare, Dafydd ap Gwilym ac Islwyn wedi dihysbyddu cyfrinion yr Awen." Y mae'r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae'n dyfod, nac i ba le y mae'n myned;" felly y mae pob un a enir ag Athrylith ynddo. Ni ŵyr neb pa ffurf lenyddol a gymer Athrylith; ac oblegid hynny, ni ellir gosod i lawr restr o reolau anffaeledig ynglŷn â mathau o lên, fel y gwnaeth Beirniaid y cynoesoedd, gan gyfyngu perffeithrwydd llenyddol o fewn cylch y cyfryw fathau. Dylid cofio nad cynnyrch cyd-ymffurfiad â safonau neilltuol, yn bennaf, ydyw prydferthwch Llenyddol,—nac unrhyw fath o brydferthwch, o ran hynny.

Am y rheswm hwn, ni ddylid beirniadu'n gyfangwbl ffurfiau ar lenyddiaeth wrth