bachgennaidd,"—meddyliwn a theimlwn, deallwn a llefarwn mwyach wrth yr un safon ag ef. "Try enaid dyn yn un â'r hyn a wêl,"—ac a anadlo.
(xii) Delfryd Llenyddol. Y mae i bob Celfyddyd ei delfryd a ddena fryd y sawl a'i gwêl, gan ddeffro awydd angerddol ynddo i ymestyn at berffeithrwydd. Boed fardd neu lenor, boed gerflunydd neu gerddor, boed arlunydd neu bensaer, gwêl yr artist ei waith dan dywyniad goleuni a ddisgyn arno o wyneb ei Ddelfryd,—"y gwawl na bu erioed ar fôr na thir."
At y safon hon y cyfeiria Tennyson yn y cwpled:
That type of perfect in his mind
Can he in Nature never find."
Yr un safon oedd ym meddwl Marlowe pan ganodd,—
"If all the pens that ever poets held
Had fed the feeling of their masters' thoughts,
And every sweetness that inspired their hearts,
Their minds and muses on admired themes,—
If all the heavenly quintessence they still
From their immortal flowers of poesy,