ac is-ymwybyddiaeth yr awdur. Penderfyna'i werth yn ôl yr ateb a gaiff i'r cwestiynau,—Pa faint o feddwl, a theimlad a chymhellion yr awdur ei hun a gynnwys? Paham yr ysgrifennodd ar y pwnc hwn, ac yn y ffurf hon? Pa beth, iddo ef, ydyw elfennau prydferthwch? A ydyw wedi llwyddo i'w mynegi mewn geiriau cyfaddas? Yn fyr, i ba raddau y mae'r gwaith yn fywgraffiad enaid yr awdur ei hun? Tebyg ydyw'r Beirniad hwn i ddaearegydd a duria ei ardd, haen ar ôl haen, mewn ymchwil am adnoddau dirgelaf gwreiddiau, cyff, blagur, blodau, a ffrwythau popeth a dyf ynddi! Cais wybod faint o'r ddaear sydd yn y blodau a'r ffrwyth, gan anghofio cyfraniadau'r nefoedd,—pelydr yr haul, awelon y gwanwyn a'r haf, gwlith y wawr a'r hwyr, a'r cynnar a'r diweddar wlaw.
Cyfuna Beirniad Llenorol diweddar nodweddion gorau'r pedwar math uchod. Arfer ei farn fel y cyntaf, ei deimlad fel yr ail, ei wybodaeth hanesyddol fel y trydydd, a'i chwilfrydedd gwyddonol ac athronyddol fel y pedwerydd.
2. A beth ydyw cymwysterau'r cyfryw Feirniad? Ymhlith y pennaf, gellir enwi'r rhai canlynol:
(i) Gwybodaeth eang, fanwl. Dyma'r cyntaf peth sy raid i Feirniad ei feddu. Ofer