(vi) Rhaid ysgrifennu Dramâu, yn enwedig Trasiedi, yn ôl Deddfau Aristotl, fel ag i gynnwys tri math o Unoliaeth,
(a) Gweithrediad (Action)
(b) Amser (Time)
(c) Lle (Place)
(vii) Caniateir rhyddiaith mewn Comedi.
(viii) Caniateir peth rhyddid yn rheolau'r Arwrgerdd.
(ix) Y mae'r Mathau eraill o farddoniaeth yn israddol i'r rhain.
(x) Yn ei holl ymwneuthur â'r Mathau hyn, rhaid i'r bardd edrych ar Arfer yr Hynafiaid,—Homer, Fyrsil, etc.
(xi) O'u hastudio'n fanwl, ceir bod yr Hynafiaid wedi rhagflaenu Athrylith pob oes ymhob peth o bwys, a'u bod wedi gwneuthur eu gwaith mor rhagorol fel mae'r unig ffordd, bellach, i lwyddiant llenyddol ydyw eu hefelychu hwynt.
(xii) Ni ddylid, ar unrhyw gyfrif, esgeuluso Rheolau Cerdd Dafod Horas,—ei Ars Poetica."
Am ganrifau, ystyrrid y Safonau a osodir i fyny yn y Gredo uchod fel pethau cysegredig. Er enghraifft, mewn erthygl yn yr "Edinburgh Review" ychydig flynyddoedd yn ôl, ceir y sylw hwn: