Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni ddylai cyfanwaith llenyddol, gan hynny, na dechrau na diweddu ar ddam—wain; eithr dylai gyd—ymffurfio a'r egwyddorion hyn."

Neu, mewn diagram, fel hyn:

Ceir achosion B yn A; ac achosion C yn B. Wrth gwrs, blaenorir A gan ryw achosion, a dilynir C gan ryw effeithiau; eithr nid oes angen nodi'r naill na'r llall,—bydd y darn celfyddyd yn gyfanwaith heb fanylu na sôn dim am danynt hwy. Y prif bwynt ydyw hwn,—Wedi dechrau

ag A,

Rhaid i B fod yn ganlyniad anocheladwy A,

a C——————————B.

"Ac yna y daw y diwedd,"—dylid tewi, heb ychwanegu sylwadau na thynnu casgliadau o unrhyw fath yn y byd.

Brithir ysgrifeniadau Aristotl a'r Hynafiaid eraill ag awgrymiadau o nodwedd y paragraff uchod, ynghydag enghreifftiau lluosog yn corffori'r cyfryw awgrymiadau mewn rhydd-iaith a barddoniaeth yn llawn ceinion arhosol eu gwerth.

5. Prif fai'r Clasurydd ydyw gor-deyrngarwch i'r Hynafiaid, hyd yn oed ar y draul, lawer