2. Cynnydd Rhamantyddiaeth. Dengys y tabl uchod, yn ogystal â'r tabl a roddwyd ar td. 51, y ceir gogwyddiadau Rhamantyddol mewn Beirniaid Llenorol ymhob cyfnod o lenyddiaeth; a bod y gogwyddiadau hyn, yn hanes llên Lloegr, yn lluosogi ac yn ymgryfhau gyda threigliad amser: e.e., gwêl fynyched y digwydd R, R, R, yn y tabl. Wrth astudio manylion tystiolaethau'r ddau dabl, gall y darllenydd ffurfio barn weddol gywir am ddatblygiad y ddwy duedd y soniwyd am danynt—sef y duedd Glasuryddol a'r duedd Rhamantyddol yn llên Ewrop am dros ddwy fil o flynyddoedd o ddyddiau Longinus hyd heddiw. Sylwed, yn neilltuol, ar y ffaith bod Rhamantyddiaeth yn ennill nerth a phleidwyr oddiar amser Wordsworth. Os cofia ddyddiad y Chwyldroad Ffrengig (1789), a'r egwyddorion a'r egnïon a ledaenwyd y pryd hwnnw drwy holl wledydd y cyfandir ac Ynys Brydain, gan effeithio ar eu llên yn ogystal ag ar eu gwladweiniaeth a'u cymdeithas, fe wêl, o bosibl, un rheswm, o leiaf, dros yr adfywiad grymus a pharhaol mewn Rhamantyddiaeth yn yr oes honno, ac yn yr oesau dilynol. Gwrthryfel yn erbyn awdurdod yn gyffredinol oedd y Chwyldroad Ffrengig; gwrthryfel yn erbyn awdurdod mewn celfyddyd a llên yn arbennig ydyw Rhamantyddiaeth erioed. Cais osod Dychymyg yn lle Rheswm; Brwdfrydedd yn lle Pwyll; Athrylith yn lle Rheol; Argraffiadau yn lle Myfyrdodau; Tystiolaethau'r Llygaid, y Galon, y Ffansi yn lle Gorchymynion,
Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/64
Gwedd