Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(xiii) Ymhob oes, gofyn Athrylith am argraffiadau synhwyrus newyddion, pleserau meddyliol newyddion, ffurfiau mynegiant newyddion. Fel Rousseau dywaid: "Je ne suis fait comme aucun de ceux que j'ai sus. Mais si je ne vaux mieux, au moins je suis autre," h.y., "Ni'm gwnaethpwyd fel neb a welais erioed. Eithr onid wyf yn well, yr wyf, o leiaf, yn wahanol." Dyna arwyddair Rhamantyddiaeth ar hyd yr oesau,—"Yr wyf, o leiaf, yn wahanol."

4. Hawlia Rhamantyddiaeth famiaith y genedl fel cyfrwng llenyddol. Dyma'i brwydr gyntaf yn hanes llên pob cenedl. Tybid gynt fod Groeg a Lladin yn rhagori ar fam—iaith pob cenedl arall yn Ewrop,—mewn urddas, mewn nerth, mewn coethder, mewn prydferthwch; ac mewn canlyniad esgeulusid a dirmygid Iaith y Werin gan bobl o ddiwylliant. Defnyddiai gwŷr o Athrylith y Lladin fel eu hiaith lenyddol ymhob gwlad yn Ewrop. Fel y gwelir oddiwrth y tabl ar td. 51, canfu Dante ffolineb y fath arferiad, ac ysgrifennodd ei lyfr "De Vulgari Eloquio"=Iaith y Werin,"—o blaid defnyddio iaith gyffredin yr Eidal mewn llenyddiaeth. Gan mai apêl at bobl ddysgedig ydoedd, ysgrifennodd y llyfr yn y Lladin; ond pan ymgymerodd a chyfansoddi ei orchestwaith barddonol—"La Divina Commedia"—ysgrifennodd yn yr Eidaleg, iaith ei famwlad. Ymladdwyd yr un frwydr yn Ffrainc, yn yr Ysbaen, yn yr Almaen, ac yn Lloegr.