Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid yw'r frwydr ar ben eto yng Nghymru,—ac nid oes broffwyd a wŷr pa hyd y pery'r frwydr ychwaith. Ymddengys rhai o Athrawon y Brifysgol dipyn yn ansicr ar y mater, canys cyhoeddant eu llyfrau weithiau yn y Saesneg, ac weithiau yn y Gymraeg; e.e., "A Welsh Grammar" a "Cerdd Dafod" gan y Syr John Morris—Jones, "A School of Welsh Augustans" a "Pantycelyn" gan Saunders Lewis.

Y mae, fodd bynnag, yn llawenydd i bob llenor yng Nghymru pan welo gymaint o ffrwyth y Dadeni Diweddaraf, yn arbennig yn yr ymgais dra lwyddiannus a wneir gan gynifer o ysgrifenwyr galluog i ysgrifennu eu hiaith eu hunain gyda'r un medr ag yr ysgrifennai llenorion Groeg a Rhufain yr eiddynt hwy yn y dyddiau gynt, a chyda'r un ystwythder ag yr ysgrifenna Llenorion Ffrainc, yr Eidal, a Lloegr yr eiddynt hwythau. Pan feddianner cenedl gan Ysbryd Rhyddid a Rhamant, daw hoywder i'w meddwl a gloywder i'w hiaith.

5. Bu pob darn o gelfyddyd yn rhamantaidd yn ei ddydd. Bu cerddi Homer a cherfluniau Pheidias i gyd yn newydd a nwyfus, rywbryd, yn eu hanes. Cynhyrfent, y pryd hwnnw, deimladau dieithr a phleserus yn eu hedmygwyr; bodlonent yr ysbryd rhamantaidd yn oes eu creadigaeth. Felly, hefyd, am weithiau Aeschylus, Sophocles, ac Euripides; Herodotus a Xenophon; Fyrsil, Horas a Livy; a phob gwaith arall a ddaeth,