Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI
BEIRNIADAETH LENOROL YNG NGHYMRU

1. Fel y dengys y tabl a ganlyn, ceir yr un ddwy elfen, Clasuryddiaeth a Rhamantyddiaeth, yn llên ac ym Meirniadaeth Lenorol Cymru, hefyd. Cofier y defnyddir y gair clasuryddiaeth" wrth sôn am lên Cymru i olygu'r Hen Draddodiad Cymreig, a'r ymlyniad wrth yr arfer o feirniadu wrth Reol a Phatrwm,—prif nodwedd Clasuryddiaeth yn hanes llên pob gwlad.

PRIF FEIRNIAID LLENOROL CYMRU

(a) CYFNOD CYNNAR="YR HEN YSGOL."

Awdur Oes Ysgol Prif Weithiau Beirniadol.
Dafydd ap Gwilym bl.1340-1390 R1 Perffeithio Mesur Cynydd
Dafydd ab Edmwnd c. 1425-1500 C1 Cynganeddion a Mesurau-Eisteddfod Caerfyrddin, 1451
Tudur Aled c. 1465-1526 C1 Rheolau Tudur Aled
Simwnt Fychan c. 1530-1606 C1 Pum Llyfr Kerddwriaeth-Eisteddfod Caerwys, 1588
W. Salesbury c. 1520-1600 C1 A Dictionary in Englyshe and Welshe
Sion Dafydd Rhys c. 1534-1609 R1 Welsh Grammar
Huw Morus 1622-1709 R1 Mesurau Rhyddion
Goronwy Owen 1722-1769 C1 Llythyrau
Lewys Morys 1700-1765 C1 Llythyrau
W. Williams, Pantycelyn 1717-1791 R2 Y bardd rhamantus, a'r bardd modern cyntaf yn Ewrop
Iolo Morganwg 1741-1814 C1 Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain
Caledfryn. 1801-1869 C1 Drych Barddonol; Gramadeg; Beirniadaethau
Eben Fardd 1802-1863 C1 Beirniadaethau
Hiraethog 1802-1883 C1 Beirniadaethau
Lewis Edwards 1809-1887 C1 Traethodau Llenyddol a Diwinyddol
Dafydd Morganwg 1832-1905 R2 Ysgol Farddol "; Beirniadaethau
Silvan Evans 1818-1903 C1 Llythyraeth yr Iaith Gymraeg; Geiriadur
Emrys ap Iwan 1851-1906 R2 Gramadeg Cymraeg; Homiliau