yn bosibl mesur gwerth a theilyngdod cymharol gweithiau llenyddol,—drwy eu cymharu â'r rheolau cydnabyddedig. Eglura hynyma'r ysbryd dogmatig a ffynnai ym meirniadaeth lenorol y canrifoedd clasurol yn Ffrainc, yn Lloegr, ac yng Nghymru. Goronwy Owen a Lewys Morys, medd Saunders Lewis, a ddug y cyfryw Feirniadaeth i Gymru,—gyda nifer o bethau Beirniadol eraill. [Gwêl Llenor, cyf. IV, Rhif 1, td. 31-33.]
(iii) W. Williams, Pantycelyn: "Y bardd rhamantus, a'r bardd modern, cyntaf yn Ewrop," medd Saunders Lewis. [Pantycelyn, td. 17]. "Yr oedd ei ffilosoffi ef, ei dyb am natur ac amcanion barddoniaeth yn groes i holl ddamcaniaethau'r Estheteg Gymreig," fel y deëllid ac y dysgid hi gan Ddafydd ab Edmwnd a'i ddilynwyr, a chan Oronwy Owen a'i gefnogwyr. Creu ceinder, symbol o berffeithrwydd, oedd delfryd y beirdd clasurol. Gan hynny yr oedd eu parch i'r Gymraeg yn ddiderfyn, ac i eiriau unigol a oedd yn elfennau melyster." "Nid felly i Bantycelyn. Ni pharchai ef eiriau o gwbl, ond eu darnio a'u hanafu. Y mae'n debyg gennyf mai'r llinell hon yn Theomemphus,
'Yn Constant fawr inople.'
yw'r llinell waethaf mewn barddoniaeth Gymraeg." [eto td. 32] "Nid er mwyn