melyster na diddanwch," y canai Pantycelyn, "ond er mwyn 'traethu maes ei brofiadau'." "Cywirdeb, nid ceinder, yw ei amcan mewn barddoniaeth. Mynegi'n gyflawn y profiadau dirgelaf na cheisiodd neb o'i flaen eu rhoi mewn geiriau." [eto td. 33.]
(iv) Lewis Edwards. Torrodd ei Draethodau Llenyddol a Diwinyddol ef dir newydd ym Meirniadaeth Lenorol Cymru. Creodd ysgol newydd o Feirniaid Llên a Diwinyddiaeth. Yn wir, rhoes "Traethodau'r " Doctor a "Llythyrau Hen Ffarmer" Gwilym Hiraethog batrymau newyddion o Ryddiaith i Lenorion y genedl oddiar hynny hyd heddiw.
3. Yn y cyfnod Diweddar,—" Yr Ysgol Newydd," ceir nifer o ysgrifenwyr bwyiog a beiddgar o blaid y safbwynt Rhamantyddol mewn Beirniadaeth Lenorol. Eglurir golygiadau'r "ysgol" hon, o bryd i bryd, mewn erthyglau diddorol a heriol, braidd yn brofoclyd, weithiau, yn y "Llenor ": e.e.,
- (i) "Gwrthryfel ac Adwaith;" "Yr Awen ar Ddisberod;" Nodiadau'r Golygydd; ac Adolygiadau lawer, gan W. J. Gruffydd.
- (ii) "Safonau Beirniadaeth;" "Yr Eisteddfod a Beirniadaeth," gan Saunders Lewis.