Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
(iii) Trefn cynnydd ydyw Gwrthryfel Cynhyddol yn erbyn awdurdod; neu mewn geiriau eraill, twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn.—W. J. GRUFFYDD.

(c) (i) Nid yw Beirniadaeth ffurfiol ond ieuanc. Ac fel popeth ieuanc y mae'n naturiol iddi golli'r ffordd.

(ii) Ni a welwn fod y ddwy ysgol ("yr Hen "a'r" Newydd" yng Nghymru) yn unfryd wrth ddywedyd mai chwilio am ba bethau bynnag sydd gain yw gorchwyl Beirniadaeth Lenyddol. . . . Mi addefaf fod y syniad hwn mor hen â dechreuad Beirniadaeth; serch hynny, mi gredaf mai cyfeiliornad ydyw.
(iii) Y mae pob safon yn hwyr neu hwyrach yn rhwystr ar ffordd celfyddyd.
(iv) Un o freuddwydion byd yr anwadalu yw'r dychymyg am safonau a saif.
(v) Yr wyf yn credu bod popeth sy'n gelfyddyd, boed gân neu gerflun, yn beth unig, arbennig, ac yn gwbl ddigymar: Ffrwyth unigedd enaid yw celfyddyd . . . mynegiant o ber—sonoliaeth yr Awdur.