Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
(vi) Dyna un rheswm—nid yr unig reswm—paham na ddichon y werin adnabod llenyddiaeth.

(vii) Y mae'n amlwg na all dyn cyffredin' ddeall yr anghyffredin ond ymhen amser maith; a'r anghyffredin yw hanfod llenyddiaeth.

(viii) Gan hynny, y mae'n eglur imi na ellir dim barnu Celfyddyd wrth safonau o gwbl. Canys od yw campwaith yn beth ar ei ben ei hun, heb iddo un gwir gymar, sut y gellwch chwi ei ddosbarthu ef ag eraill? Ni cheir fyth safon heb ddosbarth.

(ix) Y mae hanes llenyddiaeth pob gwlad yn profi'n gyson fod yn rhaid dinistrio safonau fu rywdro'n ddefnyddiol.

(x) Mae Beirniadaeth Lenyddol hithau yn aml yn llenyddiaeth. Cynnwys, felly, elfen bersonol. Ond rhaid i farn, i ddedfryd, fod yn amhersonol, neu ynteu nid yw hithau namyn mympwy, peth personol.

(xi) Fe addef pawb mai niweidiol ddigon a fu dylanwad "Barddas" Aristotl ar gwrs llenyddiaeth.