Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
(ix) Od ydyw'r nofel i ddehongli yn uniongyrchol, yna cyfuniad artistig o'r Rhamantus a'r Realistig fel y gwelir mewn bywyd sydd yn ein cyffwrdd a'n cyffro.
(x) Rhaid i'r Beirniad, efallai, helaethu sail ei feirniadaeth, ac edrych ar yr elfennau clasurol a rhamantus mewn llên fel mynegiant naturiol o'r cyferbyniad bywydol sydd yn natur dyn.
(xi) Ni ddylem ofni gwneuthur protest yn erbyn y Beirniad sydd heb na gweledigaeth na barn aeddfed, ond yn unig fympwy cibddall a pharch at draddodiad pa mor anwir bynnag y bo hwnnw.—J. HUBERT MORGAN.

5. Beirniedwch y golygiadau canlynol o'r Llenor:

(i) Yr eilbeth yw rheswm ym myd llenyddiaeth fel ym myd bywyd.
(ii) Od yw ein safon wrth feirniadu llenyddiaeth i fod yn sicr rhaid i bawb ei llunio drosto'i hun, gan adeiladu ar y sylfaen syml ein bod yn hoffi rhai pethau ac yn teimlo bod rhywbeth o'i le ynglŷn â phethau eraill.