Prawfddarllenwyd y dudalen hon
VII
ARDDULL
1. Mân Elfennau Arddull Dda. Dyma rai o honynt:
| (i) Cywirdeb Iaith | Gwêl td. 19-20. |
| (ii) Medruster Crefft | |
| (iii) Coethder Ymadrodd |
(iv) Eglurder Meddwl. Er sicrhau hyn, rhaid i'r awdur gymathu a meistroli ei fater yn drwyadl, a'i fynegi ei hun mewn ffurf hawdd ei deall gan y darllenydd cyffredin.
(v) Symlrwydd Mynegiant. Y ffurf symlaf bob amser ydyw'r ffurf orau. Amcaner at uniongyrchedd mewn mynegiant.
(vi) Olyniaeth Meddyliau. Dylai'r meddyliau a'r teimladau a fynegir ymddolennu o frawddeg i frawddeg, o baragraff i baragraff, o bennod i bennod. Gocheler popeth digyswllt,—meddwl, gair, ymadrodd, brawddeg, paragraff, pennod. Uwchlaw pob dim, gwylier rhag brawddegau llosgyrnog.