Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

namyn y gelfyddyd o fynegi meddwl yn briodol gydag eglurder.' Nid oes, felly, elfen ychwaneg mewn Arddull nag a ennwyd uchod. Ymddengys, fodd bynnag, fod rhyw elfen arall mewn Arddull dda sydd yn bwysicach nag unrhyw un a nodwyd eisoes,—ond odid yn bwysicach na hwynt oll gyda'i gilydd.

Beth ydyw'r Elfen honno? Sonia M. Arnold am Arddull a ddwg argraff personoliaeth yr awdur,—"yr Arddull honno a fedd fath o wynebddull (physiognomy), sydd yn rhan hanfodol o wynepryd yr Awdur,—a ddyry argraff annileadwy o hono ar feddwl y darllenydd."

Ceir awgrym o'r syniad hwn am Arddull yn ystyr a hanes y gair ei hun: e.e.,

Style = a pointed tool for writing; a mode of writing.—SKEAT

Arddull=ar+dull: dull—form, fashion, manner, mode, scheme, pattern, aspect.—ANWYL.

"Dull y pedwerydd sydd debyg i Fab Duw.'—DAN. 325.

"Hysbysa iddynt ddull y tŷ."—ESEC. 43".

"A'i gael mewn dull fel dyn."—PHIL. 28.

Golyga Arnold, felly, y dwg gwaith artistig ddelw ac argraff y gŵr a'i gwnaeth, a'r ddelw