Yna daeth y trydydd dydd,
A ION roes ei leferydd,
"Prysured, torred tiroedd yn llwyr oll
Ar wahân o'r dyfroedd;
Ymadewch ac ewch ar g'oedd
Yn llawen tua'ch lleoedd."
15
Ar hyn clybuwyd gerwin ddryghinoedd,
A rhwygo'r entrych wnai rhyw gorwyntoedd ;
Yn ddiymaros rhuthrodd v moroedd,
Tua'r gwaelodion, eu trigle ydoedd,"
A deilliai pistylloedd-chwyrn, tryloewaf,
Am yr ufyddaf i NAF y nefoedd.
Oesol fynyddau a sylfein iddynt,
Dan ryw ysgydwad yn rhes a godynt;
Ynysoedd at eu gilydd nesynt,
Bryniau cribog ardderchog a ddyrchynt;
Ymhell ac agos yr ymddanghosynt,
Gwledydd addien o'r cymysglaid ddeddynt,
A'r dolydd hyfryd elynt i'w lleoedd,
Gwaith eu Hawdwr oedd yn goeth goeth drwy-
ddynt.
Rhedai y gloewon afonydd-mawrion
Tua'r môr yn ufydd;
Gwrid y wawr hawddgar derydd-ar eu lli,
Nes bywiol lonni y drych ysblenydd.
Yr hyfion reieidr hefyd,
Ruent yn uwch, uwch o hyd;
Mynnent eu ffordd drwy'r meini-cauedig,
Codent hwy fel gwegi:
Agenent y clogwyni
I'r llawr i wneud llwybr i'w lli.
Q
Tudalen:Emrys (Cyfres y Fil).pdf/23
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto