Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Emrys (Cyfres y Fil).pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

A phob rhyw yn fywiog, yn arwyddaw
Amryw allu llaw'r MAWR hollalluog.
Y dwyfol anfeidrol FOD,
Er ei fawl, wnaeth forfilod;
Rhyw ynysoedd byw oeddynt a'r môr mawr
Murmurawl a rwygynt;
Aent fel dwl gwmwl o flaen gwynt-ar ffrwst,
A rhuadfawr drwst cauai'r dwfr drostynt.
Yna'r adar yn heidiau-ddeorwyd,
Awyr a lanwyd o amryw luniau;
Rhai dofion oedd yno'n hel
Eu dewis fwyd yn dawel,
Yn eu greddf yn chwalu'r gro,
Adwaenent eu bwyd yno.
Y ceiliog glân a'i gân gu,
A'r ddof iar i'w ddifyrru.
Ymloewai'r paen amliwiog-a moesgar
Yn eu mysg yn serchog,,
Gan ddangos ei dlos wisg dlysog a'i ben;
Ysgydwai'i aden mewn rhwysg godidog.
Y droedweog ŵydd a'r twrci chwyddog,
A'r golomen lawen symudliwiog,
Yr hwyaden ferr-droediog-a phob llin
O' diofn fyddin yn cydfyw'n foddog.
Rhai ar gopâu creigiau crog
Yn byw'n y gwynt chwibanog,
Chwifio'n rhydd uwch ofn yr aig,
Uwch aelgref uthr uchelgraig;
Q