Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Emrys (Cyfres y Fil).pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Daeth y chwechfed dydd a'i weithredoedd,
A difyr oedd yr hyfryd foreuddydd.
O forau anarferol!-dihunai
Pob dawn peroriaethol,
Yn gytun heb un yn ol,
O gân i Dduw'n blygeiniol.
Parai'r Duw mawr ddistawrwydd,-ataliwyd
Pob telyn yn ebrwydd,
Pawb yn uno i wrando'n rhwydd
Ar hirglod air yr ARGLWYDD ;-
"Dyrodded daear heddyw,
O bob creaduriaid byw,
Oll yn eu rhyw, llanwer hon
A'r hiliawg amrywiolion-
Yr ymlusgiaid, anifeiliaid,
Yn fywiolion;
A bwystfilod, lluon hynod
Oll yn union."
Ar hyn y ddaear hynod
Wisgai newydd newydd nôd,
Ger bron, agorai ei bru
Yn ddiatal o'r ddeutu;
A'r prysur greaduriaid
Yn codi o honi'n haid.
Rhai oedd yn chwarau'n rhyddion iach yrroedd ;
Ac ai degau i rodio'r coedwigoedd;
Rhai ar eu torrau yn mynd drwy'r tiroedd ;
Ac eres lywiai rhai tua'r corsleoedd ;
Ai rhyw lu i'r pawrleoedd,-a heidiau
Am eu haneddau, tua'r mynyddoedd.
Q