Fel hyn rhedant eu diflin rodau-deall
Eu DUW mae'r tymhorau;
Yn eu pryd maent yn parhau
Yn ddilynol ddolennau.
Weithiau crasder, sychder sydd
Ar y maes yn ormesydd :
(Da oll, er nas deallwn,
Ydyw'r holl gyfyngder hwn)
Dihoeni mae pryd anian,
Och'neidio, gan wywo'n wan,
A'i thylwyth hi a welir
Ar frig rhostiedig y tir,
Yn eu dychryn yn dechreu
Am ddwr i gyd ymddyheu,
Nes ochain gan eu syched,
Ar lawr, a'u genau ar led,
O'i diriondeb DUW wrendy
Lef y rhain o'i breswyl fry;
A gair y trugarog Ion
Duedda'r sugniedyddion
At ddwfn drysor y môr maith,
Yn gyson ar negeswaith;
Dwfr, yn awr, gwyd â'i fawr nerth,
Drwy offer llyfn didrafferth;
Y CREWR mawr a'i croewa,
A'i fwrw'n ol yn groewddwfr wna;
Amlhau wna cymylau nen
Hyd lwybrau'r dawel wybren.
Am wlawon inae'n ymliwiaw!-mor ebrwydd
Mae'r wybren yn duaw;
Hyfryd ddwfr o hyd a ddaw-heb balldod
Yn fuan gawod ar fyd f'ai'n gwywaw.
Q
Tudalen:Emrys (Cyfres y Fil).pdf/44
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto