Tudalen:Emrys (Cyfres y Fil).pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CATHARINE.

YR oedd teulu yn byw yng nghwr uchaf y Ceunant, tua thair milldir a hanner oddiwrth ein capel ni. Nid oedd un brifffordd y dyddiau hynny yn myned yn agos i'r lle; o ganlyniad, yr oedd y preswylyddion yn neillduedig oddiwrth y byd o'u cwmpas. Ar amser ffeiriau Llan—— yn unig y gwelid y gwr yn ymgymysgu a'r byd. Yr oedd man—borthmyn neu jackmyn y dyddiau hynny yn meddu cystal llygaid a'u holynwyr yn y dyddiau hyn. Arferent fyned i gyfarfod, neu yn hytrach i rith—oddiweddyd gwr y Ceunant ar ei ffordd i'r ffair. Cymerent arnynt mai amaethwyr fel yntau oeddynt, a chwynent yn dorcalonnus iawn oherwydd iselder y prisiau, &c. Gofalent bob amser fod un o'r giwed yn cyfarfod y fintai cyn cyrraedd y Llan. Cynhygient ar eiddo yr amaethydd dwl, a phrynnent ei anifeiliaid am lawer llai na'u gwerth; yna gofal. ent am ei feddwi tu hwnt i derfynau ymwybod aeth, rhag i neb ddynoethi eu castiau iddo. Ond agorwyd ei lygad o'r diwedd i weled dichellion jackmoniaeth—y pethau nesaf at ddichellion Satan ei hun; a byth ar ol hynny byddai yn cario pastwn aruthrol gydag ef i'r ffair, a bygythiai derfynu gyrfa pob jackmon a gynhygiai ddyfod yn agos ato.

Yr oedd teulu y Ceunant yn ddiarhebol am eu hanwybodaeth, a garwedd eu harferion. Dywedid nad oedd llyfr o un math yn y tŷ; yn wir, ni fuasai ond cost ofer iddynt geisio un, gan nad oedd yno neb yn alluog i ddarllen. Nid oedd nemawr wahaniaeth yno rhwng Sul, gwyl, a gwaith. Byddai y gŵr yn myned i