Tudalen:Emrys (Cyfres y Fil).pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aith erbyn hynny. Ni dderbyniais sarhad oddiar eu llaw, ac ni theimlais ddim yn peri i mi edifarhau am gymeryd yr hynt foreuol. Yn wir, yr oedd golwg yr eneth a nodais yn. peri i mi obeithio y gallai rhywbeth ddyfod o hyn. Bore drannoeth daeth yr eneth i'n tŷ, ac ymddanghosai yn llawen dros ben. "Mi gaf fi ddwad y Sul," ebe hi. "Purion ngeneth i, pa sut y cawsoch gennad?" "Mam ddaru berswadio nhad, a dywedodd y gwnai hi gyfleth. iddo os cawn; ac yr wyf wedi bod yn ceisio triog i'w wneud," ebe'r eneth druan, a'i hanadl yn ei gwddf gan bryder, yswildod, a brys. Bore Sul a ddaeth, ac yr oedd Catherine wrth ein drws erbyn wyth o'r gloch. Helynt fawr a gafwyd i'w pherswadio i fwyta ac i siarad. Edrych yr oedd ar bob peth. Byddaf yn meddwl am dani yn wastad pan ddarllenwyf am Topsi yn "Uncle Tom's Cabin." Wedi iddi ymgynnefino tipyn, aeth yn ddigon hyf i neshau at y dresser, a dechreuodd deimlo pob peth Yr hyn a'i tarawodd â syndod neillduol oedd yr addoliad teuluawl. Nid oedd ganddi un amgyffred am benlinio. mewn gweddi. Aeth fy ngwraig â hi i'r capel; gosododd hi wrth ei hochr yn y set. Siaradai fel y bydd plant tair blwydd oed yn siarad yn y capel, yn enwedig pan ddelai rhyw un a adwaenai i mewn. Yr oeddwn yn pregethu y bore hwnnw ynghylch y wraig weddw a'r olew. Fel yr oeddwn yn myned ymlaen, gwelais ei sylw wedi ei ennill. Yr oeddwn yn awyddus i gael gwybod pa effaith oedd hanes gwyrth yn gael ar feddwl anoleuedig. Gofynnais iddi pa fodd yr oedd yn leicio y capel, &c. Atebai ei bod