Tudalen:Emrys (Cyfres y Fil).pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth. Bu yn gyfyng arni dros dymor; ond wrth weled datguddiadau newyddion o anonestrwydd o ddydd i ddydd, penderfynodd amlygu y cwbl i'w meistres. A rhag iddi ymddangos yn gweithredu yn fradwrus, gofynnodd un bore i un o'r waiters, yng ngwydd yr holl weinidogion, i ofyn i'w meistres a gai hi siarad â hi. Cyn pen awr daeth galwad iddi ymddangos ger bron ei meistres. Dywedai wrthi fod yn ddrwg iawn ganddi ei blino; ond na fedrai aros yn hwy yn ei lle yng ngolwg y pethau oedd yn myned ymlaen yn y tŷ. Dywedai ei bod wedi cael ei dwyn i fyny yn grefyddol, ac mai gair Duw oedd ei rheol. O ganlyniad, nas gallai gydymffurfio ag arferion y gweinidogion, y rhai oeddynt i'w thyb hi yn anonest. Ymddangosai ei meistres yn ffroenuchel, a dywedodd ei bod hi yn deall pa fodd i gadw establishment cyn iddi hi ddyfod yno, a bod croesaw iddi fyned ymaith os oedd yn anfoddloni ar ei lle; ar yr un pryd dywedai, "Mi a roddaf y character goreu i chwi." Wedi iddi ddyfod i blith y gweision a'r morwynion, ymddanghosent oll yn bryderus a llidiog, nes iddi hi ddweyd wrthynt ei bod yn ymadael, yr hyn a barodd sirioldeb mawr.

Ymhen deuddydd daeth galwad drachefn i'r Gymraes ymddangos ger bron ei meistres. "Y mae eich meistr a minnau wedi ystyried yr hyn a ddywedasoch y dydd o'r blaen," ebe Mrs. B——, "ac yr ydym yn barnu y dylem fod yn ddiolchgar i chwi am eich datguddiadau; byddwch gystal ag adrodd yr hyn sydd yn ymddangos i chwi yn anonestrwydd yn y tŷ." Adroddodd ein chwaer ieuanc ddigon i beri ymchwiliad manwl, a chafwyd allan fod mas-