Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

henaduriaid a phendefigion y wlad o bob ardal yn Nghymru, yn nghyda nifer mawr o feirdd a cherddorion, i ddifyru y gwahoddedigion. Yn mhlith y rhai hyn yr oedd Nest, merch Rhys ab Tewdwr, gwraig Gerald de Windsor, rhaglaw Castell Penfro. A phan gwelodd Owain, mab Cad- wgan, Nest, efe "a'i serchawdd yn ddirfawr rhag ei theced o bryd a gwedd, a boneddhicced ei moes." Yn mhen ychydig amser, cynnullodd yn nghyd ychydig gyfeillion, ac aeth i Gastell Penfro, gyda'r dyben o gael meddiant. o berson Nest. Llwyddodd yn ei amcan — diangodd Gerald, a chymerodd yntau Nest gydag ef i Powys. Fel y gallesid dysgwyl, dygodd hyn ef i helbul a helynt flin, fel y gorfodwyd ef a'i dad diniwaid a thrallodedig i ffoi am ddiogelwch i'r Iwerddon. Dychwelodd yr olaf y flwyddyn ganlynol, a chan iddo brofi nad oedd ganddo yr un llaw yn mradwriaeth ei fab, caniatäwyd iddo i adfeddiannu ei diriogaethau yn Ngheredigion, a hyny ar yr ammod o dalu can' punt, a pheidio caniatâu i'w fab i ddychwelyd ato. Amddiffynodd Cadwgan ei hunan yn llwyddiannus yn erbyn galluoedd ei neiaint, hyd y flwyddyn 1110, pan yr ymosodwyd arno yn ddisymwth gan Madawg, yn y Trallwm, a lladdwyd ef cyn iddo allu tynu allan ei gleddyf i amddiffyn ei hun. Mae hen amddiffynfa i'w gweled yn awr, ar lan y môr yn agos i Aberaeron, sydd o hyd yn dwyn ei enw; oblegid iddi, mae'n debyg, gael ei chodi ganddo ef. Tua chwarter milldir oddiwrthi mae dau ffermdy, y rhai a elwir hyd heddyw Cilgrogan, hyny yw, Cil Cadrogan, sef y man y byddai Cadwgan yn encilio iddo.

CADWGAN ab Owain, tywysog Ceredigion, ac ŵyr Hywel Dda. Lladdwyd ef gan y Saeson, yn y flwyddyn 949.-Myf. Arch. i., 488.


CARANOG, fab Corun ab Caredig ab Cunedda, sant oedd yn blodeuo yn nechreu y chweched ganrif. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llangranog, yn y sir hon. Ei ddydd gwyl yw Mai 16eg. Mae hanes bywyd Caranog i'w weled yn mysg yr Ysgrifau Cottonaidd yn yr Amgueddfa Brydeinig, ac ysgrifenwyd un arall gan John o Teignmouth. Yn ol hwnw, mab ydoedd ac nid ŵyr i Caredig. Dewisodd Caranog fywyd neillduedig sant, yn hytrach na dilyn ei dad fel tywysog Ceredigion.—Rees' Welsh Saints.


CAREDIG, oedd fab Cunedda Wledig, ac yr oedd yn byw yn niwedd y bedwaredd ganrif. Hynododd ei hun yn fawr fel rhyfelwr, trwy ymlid ymaith y Gwyddelod, y rhai oeddynt wedi meddiannu amryw ranau o Gymru. Fel gwobr am hyn, derbyniodd diriogaeth y Tyno Coch yn feddiant iddo ei hun, a'r hon a elwid wedi hyny oddiwrtho ef yn Ceredigion.


CARON, esgob, yr hwn a sylfaenodd Eglwys Tregaron, ac a gofieir Mawrth 5ed.— Rees' Welsh Saints.