Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i serchogrwydd o natur fwy tyner na chyfeillgarwch, i gael ei ennyn yn mynwes y naill at y llall, yr hyn pan ddeallodd Ifor, efe a orchymynodd ei symud hi oddiar ffordd ei hedmygwr, ac a'i gosododd hi mewn lleiandy (nunnery) yn Ynys Mon. Ond nid un i gymeryd ei ddigaloni mewn achos o'r fath ydoedd y bardd—dilynodd hi i'r ynys, ac i'r dyben o gael rhyw gyfleusdra i ymddyddan yn achlysurol â gwrthddrych ei serch, cyflogodd ei hunan yn was i Abad mynachlog gymydogaethol, ond ni chyrhaeddodd ei amcan er cymaint fu ei ymdrech. Yn ddigalon dychwelodd yn ol tua llys ei noddwr, lle y parhadd i dderbyn yr un ymgeledd a'r caredigrwydd ag a brofasai o'r blaen; a rhwng yno a Bro Gynin y treuliodd y gweddill o'i oes. Yn fuan ar ol hyn, gwnaed ef yn Brif fardd Cadair Morganwg, a dyna yr achos o'i alw yn fynych Dafydd Morganwg. Yr oedd yr anrhydedd yma ar unwaith yn ddigon o drwydded i'r bardd i dalu ymweliadau â phrif lysoedd tywysogion y wlad, ac i rydd-gymdeithasa â hwy yn eu gwleddoedd a'u llawenydd; oblegid yr oedd y tywysogion Cymreig y pryd hyny yn nodedig am eu haelioni i'r beirdd, a'u nawddogaeth i feibion yr awen. O ran ymddangosiad personol, yr oedd Dafydd ab Gwilym yn lluniaidd neillduol o gorff a glandeg yr olwg. Yr oedd yn dal a hirfain, a'i wallt yn nodedig brydferth, o liw melyn, crych, ac yn hongian i lawr yn llaes fodrwyau dros ei ysgwyddau. Yr oedd y fath gydgyfarfyddiad o brydferthwch a hawddgarwch, yn nghyda'i alluoedd i swyno a'i gerddi, yn peri ei fod yn sefyll yn uchel yn ffafr y rhyw deg. A dywedir fod ganddo ar un adeg, ddim llai na phedair ar hugain o gariadon. Tra ar ymweliad & Mon, cyfarfyddodd a Morfydd, merch Madawg Lawgam, yr hon o herwydd ei glendid anghymharol a lwyr swynodd ei serchiadau. O hyny allan yr oedd holl rym ei awen yn gysegredig i'r swydd o ganu ei chlodydd, a chyfansoddodd saith ugain a saith o riangerddi iddi hi, y rhai sydd yn llawn o'r tynerwch a'r meddyliau mwyaf lednais. Wedi derbyn ei chydsyniad hi i'r weithred, unwyd hwy a'u gilydd gan un Madog Benfras, bardd enwog, yn nghanol encilion coedwig, yn ngwydd cor-geiniaid asgellog y coed yn unig, yr hyn nid oedd yn ddefod anarferedig yn yr oes hono. Ond gan na thybiai ei rhieni y cyfryw briodas yn gyfreithlawn, llwyddasant o'r diwedd i ddwyn Morfydd yn ol, a gorfodasant hi i briodi un Cynfrig Cynin - hen wr methedig, a'r hwn na feddai ddim ond ei gyfoeth i'w gymeradwyo. Wedi llawer o ymchwil a gwyliadwriaeth ddyfal, llwyddodd y bardd i'w chael yn ol ato drachefn; ond ni fu ei ddedwyddwch ond o fyr barhad, oblegid gwahanwyd hwy yr ail waith gan y priod digiedig ; ac nid yn unig hyny, ond dirwywyd y bardd i swm mawr; a chan ei fod yn analluog i dalu, gosodwyd ef yn ngharchar. Ac oni b'ai i garedigrwydd ei hen gyfeillion yn Morganwg yn talu y dirwy drosto, mae yn debyg mai yn y carchar y cawsai ddihoeni hyd ddiwedd ei oes. Wedi marw o'i