Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

noddwr, Ifor Hael, symudodd y bardd i'w blwyf genedigol, lle y treuliodd lawer o flynyddau. Testunau caniadau olaf ei fywyd yn y neillduedigrwydd hwn, oedd marwolaeth ei noddwyr, a'i Forfydd anwylgu, yr hon a orfucheddodd; ac amlygai edifeirwch mawr am afradlonrwydd ei fywyd boreuol, yn nghyda thaer erfyniadau am faddeuant o ffoleddau ei ieuenctyd. Desgrifia deimladau ei fynwes yn y geiriau toddedig—

"Mae Ifor a'm cynghorawdd?
Mae Nest oedd unwaith i'm nawdd?
Mae dan wydd Morfydd fy myd?
Gorwedd ynt oll mewn gweryd!
A minnau'n drwm i'm einioes
Dan oer lwyth, yn dwyn hir loes!"

Claddwyd Dafydd ab Gwilym yn Mynachlog Ystrad Flur, tua'r flwyddyn 1400. Fel bardd yr ydym yn rhwym o'i ystyried yn mysg y dosbarth cyntaf; ac mae y swyn, y tynerwch, a'r perseinedd sydd bob amser yn nodweddu ei gyfansoddiadau, yn ei ddyrchafu yn mhell uwchlaw ei holl ragflaenwyr a'i gydoeswyr barddonol. Nid oedd chwaith yn llai enwog, fel yr awgrymwyd, am ei allu i wawdio a sènu; ac yr oedd ei duchan- gerddi yn llawn o'r edliwiadau mwyaf pigog ac awchlym. Fel prawf o hyn, nid oes ond eisieu cyfeirio at yr ymdrech farddol a gymerodd le rhyngddo â Rhys Meigan, yn yr Eisteddfod fythgofiadwy a gynnaliwyd yn Emlyn, yn mhalas Gwilym Fychan. Dywedir i'r saethau llymion o wawd a gyfeiriodd efe at ei wrthwynebydd, Rhys, suddo mor ddwfn i'w galon, ac iddo deimlo mor ddwys o'r achos, fel y syrthiodd i lawr yn farw yn y fan! Cyhoeddwyd argraffiad o ganiadau Dafydd ab Gwilym- dau gant a thriugain a dwy mewn rhifedi, gan Owain Myfyr, a Dr. William Owen Pughe, yn y flwyddyn 1789. Mae llawer, modd bynag, o'i gyfansoddiadau wedi eu cael wedi hyny yn llyfrgell Mostyn. Cyhoeddwyd hefyd gyfieithiad rhagorol i'r Saesonaeg, o rai o'i ddewis ganeuon, gan Arthur J. Johnes, Ysw., yn 1834.

DAFYDD AB IEUAN, oedd yn byw yn Llwyndafydd. Croesawodd Iarll Rismwnt pan ar ei ymdaith trwy'r wlad i gyfarfod â'i wrthwynebydd, Risiart III. O herwydd ei lettygarwch, derbyniodd gan yr Iarll "corn hirlas," yr hwn sydd i'w weled yn awr yn y Gelli Aur.


DAFYDD AB LLWYD, neu Dafydd ab Llewelyn ab Gwilym Llwyd, Ysw., o Gastell Hywel, oedd yr aelod cyntaf a anfonwyd i gynnrychioli Ceredigion yn y Senedd a ymgyfarfyddodd yn nheyrnasiad Harri VIII., sef tua'r flwyddyn 1536.-Meyrick's History of Cardiganshire.


DAFYDD, SHON, Llandyssul, pregethwr gyda'r Bedyddwyr, Ganwyd ef yn y flwyddyn 1723. Ymunodd â'r eglwys yn y lle hwnw, a dechreuodd