Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bregethu tra yn bur ieuanc. Teithiodd lawer trwy Dde a Gogledd Cymru i bregethu, ac yr oedd ei enw yn adnabyddus iawn trwy y Dywysogaeth. Bu farw yn y flwyddyn 1805, yn 82 mlwydd oed, wedi treulio oes hirfaith yn ngwasanaeth ei Arglwydd.

DAVIES, BENJAMIN, oedd enedigol o gymydogaeth Castellnewydd Emlyn, a ganwyd ef yn 1825. Gan ei fod o amgylchiadau isel, ac o herwydd marw o'i dad pan oedd efe yn lled ieuanc, ni dderbyniodd fawr o chwareu teg am addysg—tua blwyddyn meddir, a hyny gan mwyaf trwy garedigrwydd rhai o'i gymydogion cyfoethog. O ran corff yr ydoedd yn eiddil a gwan tuhwnt i'r cyffredin, er pan aned ef; ond yr oedd meddwl treiddgar a chryf yn cyfanneddu oddimewn iddo, a dangosodd hyny yn fuan trwy y cynnydd rhagorol a wnaeth yn yr ysgol. Fel y tyfai i fyny, cynnyddai ei awydd fwyfwy am wybodaeth, a darllenai gyda'r aiddgarwch mwyaf bob llyfr a ddeuai yn ei ffordd. A thra yn cario yn mlaen ei fasnach fechan, trwy ddilyn mèn i werthu nwyddau ar hyd y wlad, caffai gyfleusderau rhagorol i ychwanegu at rifedi cyfrolau ei lyfrgell fechan. Nid elai i mewn i nemawr dŷ heb holi yno am lyfrau, neu hen lawysgrifau, y rhai a brynai; ac felly casglodd yn nghyd luaws mawr o hen lyfrau Cymraeg gwerthfawr a phrin, yn nghyda rhai Seisonaeg a ddygent berthynas â Chymru. Yr oedd llawer o'r rhai hyn mor wael, brwnt, a drylliedig, fel na chadwasai neb ond un o chwaeth goethedig mo honynt yn ei lyfrgell. Dechreuodd ysgrifenu rhestr o honynt, gyda sylwadau arnynt, ond bu farw cyn ei gorphen. Yn y saith mlynedd olaf o'i fywyd, cadwai ysgol yn Merthyr, ger Caerfyrddin, lle bu farw, Hydref 24, 1859, yn 34 ml oed.


DAVIES, BENJAMIN, ydoedd frawd i'r Parch. D. Davies, Castell-hywel. Bu am ryw gymaint o amser yn gyd-athraw a'r Parch. R. Gentleman, yn Athrofa Caerfyrddin. Ystyrid ef yn ysgolhaig Hebraeg rhagorol, ac yn mysg eraill, bu y Parch. Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir), gydag ef am beth amser yn dysgu yr iaith hòno. Aeth wedi hyny i Lynlleifiad, lle y bu yn gydweinidog ag un Mr. Yates. Treuliodd yr ugain mlynedd olaf o'i fywyd fel gweinidog yn Evesham, lle y bu farw, Ionawr, 1811.


DAVIES, DAVID, a anwyd yn Geuffos, Llandysilio. Derbyniodd hyfforddiadau crefyddol gan ei rieni, y rhai oeddynt yn aelodau gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Bwriedid ei ddwyn i fyny i'r Eglwys Sefydledig, ac i'r dyben o'i barotoi at hyny, treuliodd amryw flynyddoedd mewn gwahanol ysgolion, ac weithiau cadwai ysgol ei hunan. Ac er mwyn cwblhau ei efrydiaeth anfonwyd ef o dan addysg yr ysgolhaig rhagorol hwnw, David Jones, Ddolwlff, yn mhlwyf Aberduar, lle y cyrhaeddodd wybodaeth helaeth o'r