Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Groeg a'r Lladin. Tra yno, elai i wrando y Bedyddwyr, ac o'r diwedd, yn groes i ddymuniad ac amcan ei rieni, ymunodd â'r eglwys yn y lle. Gwelwyd ynddo yn fuan gymhwysderau amlwg i'r weinidogaeth, ac felly urddwyd ef yn weinidog. Yn ychwanegol at ei ddyledswyddau eglwysig, bu am dymmor yn cadw ysgol yn yr ardal. Wedi rhoddi heibio yr ysgol, agorodd fasnachdy yn Glandwr, tua hanner milldir oddiwrth ei annedd-dy, yr hyn a ychwanegodd gryn lawer at ei lafur a'i bryder. Ond nid oedd hyny yn peri iddo laesu dim yn ei sel a'i ymroddiad gyda'r gwaith o gyfranu bara'r bywyd; a theithiodd lawer ar hyd a lled y wlad i'r dyben hyny. Tueddai ei bregethau i agor deall ei wrandawyr, yn hytrach nag i gyffroi eu serchiadau. Pregethai yn ddidderbyn wyneb yn erbyn llygredigaethau yr oes; ac ni adawai neb heb ei geryddu o unrhyw bechod ag oedd yn adnabyddus iddo ef. Yr oedd yn dra deallus yn yr ysgrythyrau, yn gystal ag yn ysgrifeniadau y gwahanol esbonwyr, megys Gill, Henry, Burkitt, Pool, &c. Gadawodd yn ei ewyllys i'r eglwys oedd dan ei ofal Gorff o Dduwinyddiaeth Ridgely, ac Esboniad Mathew Henry ar y Testament Newydd; yn nghyda thyddyn bychan, gwerth tua phedair punt y flwyddyn, at gynnal Ysgol Sabbathol yn Aberduar, dros byth. O ran corff, nid oedd ond bychan ac egwan iawn; er hyny, bu ei fywyd yn un o lafur parhaus, ac o fawr ddefnyddioldeb i achos Duw yn y byd. Bu fyw i'r oedran teg o 88 ml., 60 o ba rai a dreuliodd yn y weinidogaeth. Gorphenodd ei yrfa Hydref 11, 1826.

DAVIES, DAVID, Castell-hywel, un ag y mae ei enw fel bardd, ysgol. haig, ac athraw, mor adnabyddus trwy Gymru, a anwyd yn y Goitre, plwyf Llangybi, Ceredigion, yn y flwyddyn 1743. Yr oedd ei rieni yn enwog o ran eu duwioldeb, ac yn aelodau o'r Eglwys Annibynol yn y Cilgwyn, yr hon oedd y pryd hyny dan ofal gweinidogaethol Phylip Pugh. Derbyniodd argraffiadau crefyddol dwfn pan yn dra ieuanc, a gwnai arferiad o weddio, fel y dywed yn un o'i ganiadau, pan nad oedd ond wyth neu naw oed. Tueddwyd ef felly yn foreu at y weinidogaeth. Yr oedd ei rieni yn dra awyddus am ei weled yn troi allan yn ddyn defnydd- iol i'w wlad ac i'r eglwys, ac felly nid arbedasant na thraul na thrafferth er rhoddi iddo y ddysgeidiaeth oreu ag oedd yn gyrhaeddadwy yn y wlad y pryd hyny. Anfonwyd ef yn gyntaf i ysgol Llanybydder, ac oddiyno symudwyd ef drachefn i Langeler. Pan yn bymtheg ood, gosodwyd ef dan ddysgeidiaeth ei berthynas, Mr. Joshua Thomas, Leominster, yr hwn oedd yn weinidog duwiol a defnyddiol iawn; a bu cynghorion ac esiampl y gwrda hwnw yn foddion i ddyfnhau ei argraffiadau crefyddol blaenorol. Wedi treulio blwyddyn a hanner yn y lle hwnw, dychwelodd yn ol i Gymru, sef tua'r flwyddyn 1760. Treuliodd wedi hyny ryw gymaint o amser yn Ngholeg Caerfyrddin, yr hwn oedd y pryd byny dan arolygiaeth