Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwladol, cymerodd ran y brenin; ac mor ddewr yr ymladdodd, fel y teilyngodd gael ei urddo â'r teitl o Farchog y Dderwen Freiniol, yr hwn a fwriedid ei roddi yn 1660. Yr oedd ei etifeddiaeth yn werth £1,000. -Cam. Quart. Mag. ii., 165—7.

BOWEN, THOMAS, Ysw., boneddwr cyfoethog a haelionus oedd yn byw yn Waunifor, tua chanol y ganrif ddiweddaf. Aeth un tro i wrando Mr. Rowlands, Llangeitho, yn pregethu yn nghapel y Twrgwyn, ac o hyny allan daeth yn wrandawr cyson ar y Methodistiaid, er ei fod o'r blaen yn ymddwyn tuag atynt yn dra charedig a chymwynasgar. Yn y flwyddyn 1760, adeiladodd gapel Waunifor, yn agos i'w balas ei hunan, ac a'i rhoddodd at wasanaeth y cyfundeb; ac yn ei ewyllys trosglwyddodd ef yn llwyr iddynt dros byth. Yr oedd Mrs. Bowen yn cael ei threfnu i gadw y capel mewn cywair da tra y byddai byw. Profwyd yr ewyllys hon yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1806, gan y weddw, yr hon a adawyd yn unig weinyddes i'r llythyr cymun. Heblaw codi yr addoldy yn hollol ar eu traul eu hunain, byddai y teulu haelionus hwn yn arfer llettya a chroesawu yr holl bregethwyr a ddeuent yno. Bu eu merch ar eu hol, yn gystal a'u mab, yr hwn oedd yn offeiriad yn Eglwys Loegr, yn dra haelionus i'r achos yno tra fuont byw.—Meth. Cymru, cyf. ii., tudal. 35, 36.


CADIFOR ab Dinawal, yn y ddeuddegfed ganrif. Yr oedd yn ddyn o ddewrder mawr, a chymerodd gastell Aberteifi oddiar Iarll Clare, am yr hyn yr anrhydeddwyd ef gan ei dywysog, Arglwydd Rhys, (yr hwn oedd hefyd yn gefnder iddo), a'r arf-bais, yr hon a welir hyd heddyw yn cael ei gwisgo gan amryw o deuluoedd Ceredigion, sydd yn olrhain eu llinach yn ol iddo ef. Gwobrwywyd ef hefyd âg amryw diriogaethau, a gelwid ef yn Arglwydd Castell Hywel, Pantstreinon, a Gilfachwen, yn mhlwyf Llandysoul Cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1164. Priododd Catherine, merch y rhagddywededig Arglwydd Rhys.-Gwel Note in Lewis Glyn Cothi's Works, Dosb. iv.


CAPIFOR, oedd fab Gwaethfoed, Tywysog Ceredigion, a disgynydd o Gwyddno Garanhir. Yr oedd yn byw yn y ddegfed ganrif.


CADWGAN ab Bleddyn ab Cynfyn, a ddilynodd ei dad fel tywysog Powys, yn y flwyddyn 1079. O gylch y flwyddyn 1094, darfu iddo ef a Gruffydd ab Cynan orthrechu y Saeson yn Nyfed a Cheredigion, trwy ba fuddugoliaeth yr adennillodd y Cymry lawer o'u tiroedd. Ar ol hyn, ymddengys i Cadwgan sefydlu ei lys yn Aberteifi. Yn Nadolig 1107, gwnaeth wledd ardderchog yn y Castell hwnw, i'r hon y gwahoddodd