Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wrth wrthdystio yn erbyn difenwi ei genedl, ni wna'r gwladgarwr gorselog ond galw sylw at y celwydd athrodus, yn lle gadael iddo farw; wrth amddiffyn ennyn sel mewn rhai eraill i'w wrthwynebu. Gall llew urddasol gerdded yn hamddenol trwy dyrfa o glepgwn fydd yn cyfarth ac yn chwyrnu o'i gwmpas. Gall cenedl hen ac anrhydeddus beidio talu sylw i fân athrodwyr diweddar ac i hen gelwyddau penwyn; os dechreua eu hateb, cyll ei hurddas hyd yn oed wrth lwyddo. Ychydig yn ol cyhoeddodd rhywun lyfr i athrodi cenedl y Cymry; cododd bob hen sarhad a dyfeisiodd rai newydd. Beth wnaeth y Cymry ynfyd ond brochi, a difenwi'r llyfr, a'i ateb. Trwy hynny cafodd y llyfr gylchrediad eang, cafodd ei gelwyddau edyn, a chafodd ei awdwr elw. Cyhoeddwyd llyfr tebig am yr Albanwr. Ond anhebig iawn fu ei dynged. Ni wnaeth Sandy sylw yn y byd ohono; os gwnaeth, cofiodd am frwydr Bannockburn ac am y gwŷr mawr anfonir o'i wlad i reoli rhannau eraill yr ymherodraeth, ac ni ddywedodd ddim.

Ni ddifenwyd mwy ar neb nag ar yr Iddewon, ni ddioddefodd neb yn fwy amyneddgar, ac ni lwyddodd neb yn fwy. Gofynnais laweroedd o weithiau i blant bach Iddewig pam y darllennant ddramodau Shakespeare a nofelau Dickens, a hwythau mor annheg at yr Iddewon. "Ni wyddent hwy well." Mae y plant ymysg yr Iddewon yn gwybod am urddas a mawredd eu cenedl; a phan ddifenwir hi, teimlant nad yw hi ddim gwaeth.

Ai cyngor dyn llwfr wyf yn ei roddi? Sut y gall cenedl falch, o dymer boethlyd, oddef yn ddistaw pan ddifenwer hi? Sut y medr ffrwyno