Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y MYNYDDOEDD HYFRYD

"DRW bach, come!"

Llais tenor soniarus oedd, ar odre Pumlumon, yn galw'r gwartheg i'r fuches i'w godro, ar nawn hyfryd o haf.

Yr oeddwn wedi cychwyn o Lanidloes ganol dydd, ac wedi troi fy wyneb i'r gorllewin, at y mynyddoedd hyfryd sy'n llu mawr megis yn edrych i lawr ar y dref fechan lân a phrydferth honno. Croeswch y Bont Fer neu'r Bont Hir dros Hafren loyw risialaidd, a chewch ddewis goludog o fryniau i'w dringo neu ddyffrynnoedd i'w teithio. Mae Clywedog a Hafren a Brochan yn ein gwahodd atynt, pob un yn ei llais ei hun; a medr pob un eich arwain heibio i lecynnau swynol o dlws, a heibio i lawer cartref sy'n hynod yn hanes neu yn llenyddiaeth Cymru.

Neu gellwch godi uwchlaw'r afonydd, a dechre dringo'r gelltydd ar unwaith. Y mae eangderau o fynyddoedd o'ch blaen, yn codi yma ac acw yn drumau ag enwau hanesiol arnynt, hyd nes y cyrhaeddwch Bumlumon ei hun. Dewisais i ddringo gallt, er ei bod yn un o ddyddiau poethaf yr haf diweddaf. Wedi cerdded yn araf, ac aros beunydd i syllu ar ddyffryn Hafren islaw, ac ar y Pegwn Mawr yn codi o fysg mynyddoedd Maesyfed yr ochr arall, o'r diwedd cyrhaeddais ben y bryniau. Nis gwn am well enw arnynt na'r mynyddoedd hyfryd. Dros y rhosydd gweiriog a'r gweunydd porfa crwydrai awel ysgafndroed o eangderau Pumlumon draw. Awel haf oedd, wedi ei deffro