Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rywsut ar unigeddau'r môr; crwydrodd oddiyno i fyny hyd lethrau'r mynyddoedd, ac wedi ymdroi peth yn uchelderau hyfryd oerion Pumlumon, ehedodd i lawr, a iechyd y mynydd yn ei hanadl, i'm cyfarfod innau. Yr oedd wedi chware â'r corn carw ac â mantell Fair ar y mynydd, ac yn awr llenwai enau blodau'r dyffryn â chwerthin. Tra'n teimlo'r awel leddf esmwyth yn anadlu'n dyner ar fy wyneb, a thra'n syllu ar y dyrfa o fryniau a bronnydd hawddgar oedd o'm blaen, y clywais lais y cowmon yn galw ar nifer o wartheg duon i adael eu porfa. Mwyn iawn oedd y llais, a rywsut mynnai'r geiriau aros yn fy nghlustiau.

Tri gair yn unig ddywedwyd wrth y gwartheg, ond yr oeddynt mewn tair iaith. Ac yr oedd y tair iaith hynny yn ieithoedd tair cenedl ddaeth ar ol ei gilydd, fel tonnau'r môr, dros y mynyddoedd hyn. Gair yn perthyn i iaith goll yw'r gair drw. Yr oedd yma bobl unwaith, meddir, a'u henw ar wartheg oedd drw; cadwyd y gair hwnnw, fel pe tybid fod gwartheg y cynfrodorion yn ei ddeall yn well, yn iaith y genedl newydd ddaeth i feddiannu'r wlad. Yr enw rydd haneswyr ar y bobl y mae eu hiaith wedi ei cholli bron i gyd yw Iberiaid. Daeth Celtiaid ar eu holau, rhyfelwyr tal croenlan a llygad las, cryfach helwyr na'r Iberiaid llygatddu gadwai'r gwartheg. Cymerodd eu hiaith feddiant o'r broydd hyn; yn eu hiaith hwy yr enwir pob mynydd & dyffryn o fewn ein golwg. A gair o'u hiaith hwy, "bach," ddefnyddiai'r amaethwr fel gair o anwyldeb gyda'r hen enw Iberaidd. Ar ol y Celtiaid Brythonig daeth perthynasau iddynt, cenhedloedd Teutonaidd, ac o'u hiaith Seisnig hwy y daw gair olaf y llais.—"come."