Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tybiai rhai fod cenedl yn diflannu gyda iaith. Ond nid felly y mae. Nid oes odid air o iaith yr Iberiaid yn aros, ond eu gwaed hwy sydd lawnaf ym mywyd y genedl. Y mae iaith y Celtiaid wedi marw ar y mynyddoedd sydd ar ein cyfer ym Maesyfed, er nad oes ardaloedd yng Nghymru a'u henwau lleoedd mor Gymreigaidd; ond ni newidiwyd gwaed y bobl. Cymry ydynt o hyd, eto'n arfer ambell air Cymraeg a llawer priodddull Cymreig, fel yr arfer Cymro ambell air a phriod-ddull Iberaidd. Y mae ardaloedd Llanidloes wedi bod yn graddol newid eu hiaith; ond y mae ysbryd crefydd a diwylliant ac addysg yn awr yn galw'r hen iaith yn ol. Mewn un cwm Seisnigaidd cyfarfum â thyrfa o blant yn chware. Wrth i mi eu cyfarch yn Gymraeg, siaradasant yr iaith honno'n fwyn a llithrig; yr oedd bardd wedi ei dysgu iddynt yn eu haddoldy. Bu Llanidloes yn Gymreig ac yn Seisnig droion. Ewch i'r fynwent islaw, neu chwiliwch lyfrau ei chofnodion, a chewch fod llu o weithwyr Seisnig wedi dod iddi pan y troai'r Hafren olwynion y melinau gwlan. Ond daethant hwy'n Gymry, a llawer ohonynt yn Gymry uniaith. Gall cenedl amryfal iawn siarad yr un iaith, gall cenedl bur iawn newid ei hiaith. Ni ddengys iaith hanfod cenedl. Mae rhyw awydd crwydro diorffwys ar genhedloedd. Dychymyg, newyn, anrhaith, tywydd heulog, crefydd, erlid, ysbryd rhyddid, aur,—llawer peth sy'n denu neu'n gyrru cenhedloedd i grwydro. Y mae cyfeiriad i'w crwydro er hynny, o ogledd- ddwyrain i dde-orllewin; mor sicr a bod greddf yn rhoi llwybr i grwydriadau gwenoliaid. Y mae crwydro parhaus ym mhob ardal hefyd. Yr wyf