Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fi yn byw mewn ardal fynyddig iawn, lle fel pe wedi ei gwneud i fod yn ben gyrfa pob crwydryn. Daeth hynafiaethydd dysgedig yma rai blynydd- oedd yn ol, i fesur penglogau'r bobl; er mwyn cymharu pennau cyn-drigolion ein hynys, canys tybiai ef mai disgynyddion y rhai hynny oeddym, phennau cenhedloedd diweddarach. Ond gwyddwn i mai hollol ofer oedd ei lafur, oherwydd dyfodiaid o fewn cof hanes yw pawb; ddau can mlynedd yn ol nid oedd yr un o'r teuluoedd y mesurodd ef eu pennau wedi dod yma i fyw.

Os oes awydd crwydro ar rai cenhedloedd, y mae awydd aros yn eu hunfan ar eraill. Nid yw cenhedloedd crwydr yn gwthio eraill o'u blaenau, fel y dywed rhai sydd yn tybio y diflanna cenedl gyda'i hiaith. Peth anodd iawn yw symud rhai sydd wedi penderfynu na symudant ddim. Medrai y dyfodiaid eu meistroli a'u caethiwo, ond ni fedrent eu difodi. Heblaw hynny, yr oedd yn rhaid iddynt wrthynt. Mae'r bobl ddywed "drw," a'r bobl ddywed "bach," a'r bobl ddywed "come," wedi ymgymysgu ar y mynyddoedd yn un genedl; ac y mae rhai eraill yn crwydro yma o hyd.

Pa un ai'r cenhedloedd sy'n llawn awydd crwydro, ynte'r cenhedloedd sy'n llawn awydd aros, yw'r cenhedloedd cryfaf a goreu? Pa un ai ysbryd anturus ynte ysbryd penderfynol yw'r cryfaf? Y mae hiraeth angerddol am gartref mewn rhai cenhedloedd. Gallech feddwl na hoffai neb fyw yn "Greenland oer fynyddig," lle na thyf coeden, lle mae'r nos hir ddidor yn ddigon i ddwyn gwallgofrwydd ar deithwyr ddelir ganddi, lle mae eira tawdd yr haf bron mor erwin ag eira rhewllyd y gaeaf. Ond pan ddygwyd dau Esquimaux i feysydd