Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ARDDULL.

Y MAE dau ŵr yn codi'n amlwg i sylw efrydwyr gair ac arddull y dydd hwn, sef Dr. Johnson yn Lloegr a Dr. W. O. Pughe yng Nghymru. Gwnaeth y ddau wasanaeth tebig iawn i'w gilydd, i'w gwahanol gydwladwyr. Gwnaethant eirlyfr o eiriau, nid arferedig yn bennaf, ond arferadwy; a bu dylanwad y geiriaduron yn bwysig ac arhosol mewn dwy ffordd,—rhoddasant drwydded i rai geiriau fel geiriau llenyddol, a gwrthodasant eraill fel pethau dieithr neu esgymun. Gosodasant i lawr safonau beirniadaeth ar ffurf gair; ceisiasant orgraff unffurf, a cheisiasant gadw hen ddulliau afrosgo pan oedd greddf naturioldeb a pherseinedd wedi mynnu rhai newydd; mynnai y Cymro ysgrifennu "idd ei" yn lle "i'w," a mynnai'r Sais yntau ysgrifennu "shall not "yn lle "shan't." Drwy bregeth ac ymarweddiad llenyddol ceisiodd y ddau wasgu ar eu cenedl arddull ystyrrid yn gywir a choeth a chlasurol, hyd nas adnabuai gŵr ei famiaith ei hun yn ei gwisg lyfr. Dan ŵr mawr oeddynt, doeth a hygar a gonest a da. A heddyw gwysir hwy o flaen y cyhoedd i'w beirniadu; a chyda pharch dwfn i'w cymeriadau a'u hamcanion gofynnir, os pery eu dylanwad, pa un wnant fwyaf, ai drwg ai da.

Yn yr oes hon, pan y mae bywyd yr iaith Gymraeg a bywyd ysbryd Cymru mewn perigl oddiwrth ymosodiadau estron ac mewn perigl mwy oddiwrth