Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymosodiadau cyfeillion ffug, y mae'n eglur na all Cymru fforddio gwneud camgymeriadau, Nid oes amser i ymdroi yma ac acw i wneud arbrawfion ar fywyd llenyddol y genedl, rhaid i ni dreulio'n hamser i gyd i ddarparu bwyd llenyddol i'r oes sy'n codi, onite bydd hen fywyd llenyddol Cymru wedi mynd. Ac y mae'n bryd gofyn cwestiwn, nid cwestiwn i ddifyrru ambell orig academaidd, ond cwestiwn y mae bywyd yr iaith Gymraeg a bywyd llenyddiaeth Cymru'n dibynnu ar yr ateb. Pwy sydd i benderfynu beth yw arddull iaith? Ai efrydwyr yr iaith, sydd yn gwybod hanes treigliad ei geiriau ac wedi hen gydnabyddu â gwaith ei hysgrifenwyr mewn adegau fu, ynte y werin na syniant am ddim ond dweyd beth maent yn feddwl? Pwy sydd i ddewis geiriau llenyddol yr iaith, ai yr efrydydd ysgolheigaidd sy'n gwybod eu hachau a'u tras a'r defnydd wneid ohonynt gynt, ynte'r werin na ŵyr am ddim ond fod yn rhaid iddi ddweyd ei meddwl?

Yr ateb diamwys yw mai'r werin. Y werin sy'n meddwl, y werin sy'n siarad, ac os na dderbyn llenyddiaeth eiriau ac arddull y werin, bydd arddull llenyddiaeth Cymru yn rhy hynafol a chlasurol, ac yna yn anaturiol ac yn ddiwerth at amcanion bywyd. A phan felly, rhewa i farwolaeth.

Wedi gwneud eu geiriaduron a'u gramadegau, seiliodd y Doctoriaid Johnson a Phughe eu harddull arnynt, a gwareder Cymru a Lloegr rhag arddull o'i bath. Os na chymerir iaith llenyddiaeth o enau'r werin, os dirmygir tafodiaith, cyll arddull yr iaith ei naturioldeb a'i swyn.