Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond oni ellir gwahaniaethu rhwng anddull lenyddol ac arddull werinaidd, a dysgu'r naill yn y coleg a'r ysgol a gadael rhwng y werin a'r llall? Oni all yr ysgolion a'r colegau gyfyngu eu hunain i Ddafydd ab Gwilym a Goronwy Owen, a gadael Ceiriog ac Islwyn i'r Eisteddfod a'r werin? Na ato ysbryd gwarcheidiol Cymru i hynny fod. Byddai'n golled fawr i'r werin, byddai'n golled fwy i'r ysgol a'r coleg.

Collai'r werin ddylanwad mwyn ac esmwyth y llenor ysgolheigaidd. Ni ddywed neb na all ef roddi cymorth i berffeithio'r iaith. Os gwrthododd greddf bywyd yr iaith welliantau'r ddau ddoctor, y mae dylanwad Defoe a Goldsmith yn aros ar iaith gwerin Lloegr a dylanwad Ellis Wynn a Theophilus Evans yn aros ar iaith gwerin Cymru. Ond gwŷr oedd y rhai hyn yn astudio iaith lafar y bobl; a rhai fedrai dynnu miwsig o delyn yr iaith, a'r werin yw'r delyn.

Collai'r ysgol a'r coleg lawer, hefyd, wrth ymgadw at ramadeg wedi ei sylfaenu ar Gymraeg oesoedd yn ol, oesoedd a'u hanghenion yn anhebig iawn i anghenion ein hoes ni. I ni, y mae beirdd a llenorion yr oes hon, a llafar y werin yn ein holl ardaloedd, yn bwysig; y mae y peth elwir yn gamgymeriad y llenor weithiau yn well na'r peth elwir yn gywirdeb y gramadegydd. Gall yr ysgol wneud llawer, ond iddi ddysgu'r iaith fel iaith fyw, a llenyddiaeth fel llenyddiaeth pobl sydd eto'n byw, yn ymdrechu, ac yn gobeithio. Gall y coleg wneud llawer, ac y mae astudio'r cynghaneddion yn ddisgyblaeth werthfawr; ond, o'i gamarfer, gall y ddisgyblaeth wneud drwg. Gall wneud i'r efrydydd foddloni ar ffurfiau gorglasurol, ac