Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar arddull anghelfydd, gan suo ei gydwybod lenyddol i gysgu trwy weld ei fod yn cadw rheolau cynghanedd. Dylid llosgi naw rhan o bob deg o'r brydyddiaeth gynghaneddol argreffir yn awr, fel ymgeisiadau amrwd dwylaw anghynefin, ac eithaf peth fyddai cyfyngu pob cywydd i ugain llinell, a bygwth toraeth y beirdd os nad ymgadwant at englyn unodl-union neu hir a thoddaid. Nid oes dim mor bersain a hyawdl a chynghanedd os bydd mor berffaith fel na feddyliwch am reol wrth ei gwrando neu ei darllen. Os na bydd felly, y mae'n feichus i'w darllen, ac yn andwyol i arddull y truan a'i saernio neu a'i darllenno. Y cwestiwn sy'n poeni mwyaf ar fy meddwl i yw hyn,-paham y mae Cymraeg hen bobl ein cymoedd gymaint yn geinach, gymaint yn fwy persain, gymaint yn fwy naturiol, a chymaint addasach i farchnad a phulpud a llyfr byw, nag yw Cymraeg mwyafrif mawr y llenorion fagwyd dan y gyfundrefn addysg yr ydym mor falch ohoni? Yr wyf yn sicr ein bod mewn perigl oddiwrth orthrwm geiriaduron a gramadegau. Dylem ddal yn well ar symlder cain iaith lafar.

Dywedodd un o swyddogion addysg uchaf Cymru wrthyf yn ddiweddar na fydd neb yn siarad Cymraeg ymhen hanner can mlynedd, a dywedodd un o swyddogion uchaf Lloegr yr erys llenyddiaeth Cymru yn bwnc efrydiaeth i oesoedd sy'n dod, ond nad oes i'r iaith lafar ond bywyd naturiol byr. Gwell gen innau gredu gyda Michael D. Jones na ad Duw i'r iaith Gymraeg farw byth. Mae ei bywyd yn dibynnu ar ei gwerin ac ar ei llenorion, ac yn enwedig ar y cydweithrediad rhyngddynt. Adnabwn gynt ŵr ymgymerodd ag adeiladu pont,