Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond methodd oherwydd iddo wario'r adnoddau ddylasai fynd i wneud y bont ar ddyfeisio peiriannau i godi'r cerrig. Ymdrech ein llenorion ddylai fod,—medru ysgrifennu fel y deallo y bobl hwy. O hynny y daw arddull naturiol, fyw, a grymus.

Wrth wrando ar lafar yr heol a'r farchnad y perffeithiodd Addison arddull rhyddiaith yr iaith Saesneg, yr iaith seml a llawn o eiriau byrion, "a'i sŵn fel tannau telyn, sy'n deffro ac yn distewi gyda phob cyffyrddiad." Geiriau gwlad rydd "Ddrych y Prif Oesoedd " ei symlder clir, a chyffelybiaethau llafar gwlad rydd hanner swyn ei arddull. Darluniadau llafar gwlad, wedi eu dychmygu gan werinwyr, a'u perffeithio wrth eu harfer ganddynt hwy, yw llawer o frawddegau bachog y Bardd Cwsg. Ac mor hyfedr yw gwerin wrth wneud geiriau, rhagor llenorion. Sonia'r llenor am ei "gledrffordd" ac am ei "reilffordd," dau air heb ffurf na pherseinedd iddynt; sonia'r gwerinwr, yn naturiol a phrydyddol, am "ffordd haearn." Cymerwn ddihareb oddiar lafar gwlad, a chanmolwn ei chynnwys cyfoethog. Yr un werin wnaeth eiriau'r iaith; ac wrth wneud gair, y mae'r gwerinwr yn troi'n fardd heb wybod hynny. Y mae arddull ambell ŵr anllythrennog yn fwy cain nag arddull gramadegwr. Cymerwn ein geiriau o olud rhyfedd y werin—iaith, a byddwn glustdeneu i fiwsig ei harddull.