Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BEIRNIADAETH

Y MAE dau waith y dylid eu dysgu'n dda yng Nghymru, sef sut i ganmol a sut i feirniadu. Y mae rhai'n canmol wrth natur, a'u hanian at guddio beiau; y mae rhai yn beirniadu wrth natur, a'u greddf yn darganfod brychau. Y mae'r byd, yn enwedig y byd llenyddol, wedi ei rannu'n ganmolwyr ac yn feirniaid; y naill yn gweled gogoniant a thlysni ac yn dychmygu mwy, a'r lleill a'u llygaid beunydd ar safon na all ymdrech bardd neu lenor o ddyn byth ei gyrraedd.

Llawer cwestiwn ffol ac anorffen ofynnir am y beirniad. A oes fynno treuliad ei fwyd a'i farn? Pe bwytai fwyd iachach, a phe treuliai ef yn well, oni farnai fel arall? A all llenor da fod yn feirniad da? A all bardd fod yn feirniad o ryw lun? Tybia'r bardd mai un wedi methu canu ei hun yw'r beirniad; ac y mae'n sicr mai beirdd siomedig fu rhai o feirniaid goreu'r byd. Tybia'r beirniad mai anwybodaeth a diffyg chwaeth y werin yn unig yw achos poblogrwydd y bardd. Fel rheol, hwyrach, nid yr un yw'r bardd a'r beirniad; crewr yw y naill, archwiliwr yw y llall; ymrestra'r naill dan faner cydymdeimlad, a'r lleill dan faner cydwybod. Eto gall y gwir fardd a'r gwir feirniad fod yn un, pan fedd yr enaid gyfuniad o ddychymyg a manylder; a hyn rydd le arbennig yn llenyddiaeth Cymru i Eben Fardd.