Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ychydig mewn cymhariaeth fu o feirniadu ar dudalennau y "Cymru". Ymgais i ddeffro, i roddi ysbrydiaeth, i gynorthwyo, fu ei ymdrech o'r dechre; darganfod athrylith, a rhoddi llafar iddi, fu ei nôd. Prin y mae llenyddiaeth ein gwerin yn ddigon hen eto i fedru goddef ei beirniadu, ac y mae rhyw deimlad anesmwyth yn y meddwl mai yng nghyfnodau adfeilio y blodeua beirniadaeth.

Ond mae i feirniadaeth iach ei lle; byddai'n fendith i lenyddiaeth Cymru dderbyn mwy ohoni. Nid beirniadaeth ddidrugaredd a chreulon, yn cychwyn allan i gondemnio, wyf yn feddwl, ond beirniadaeth garedig cyfaill ac athraw. Un amcan iddi fydd dangos, oddiwrth hanes eu dydd, paham y medd ein llenorion ryw nodion neilltuol; amcan arall fydd codi awydd yn ein hysgrifenwyr ieuainc am ysgrifennu goreu byth y gallant, ac am beidio gadael i ddim gwael fynd o'u dwylaw i'r wasg. Gallai ychydig o feirniadaeth gref a miniog, ond heb fod yn angharedig ac anonest, godi llawer ar safon Cymraeg ein papurau newyddion a'n cylchgronau, a chodi peth ar safon chwaeth a chywirdeb.

Dechreuwn gydag un hawdd iawn ei gamesbonio, sef Daniel Owen. Cefais y fraint o'i adnabod, a bum yn ymddiddan âg ef am y beirniadaethau ddarlunnir gan law fedrus. Y mae y ddau gwestiwn pwysicaf yn ddiddorol iawn. Dyma yw'r naill,— A oedd Daniel Owen yn ysgrifennu o gariad at grefydd fanwl a hunan—aberthol ei fam, ynte i ddangos nad oedd heb ei ffaeleddau, ac y dylasai newid gyda'r oes? A dyna'r llall,—A oedd yn