Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn i wneud i Bob, llais meddwl ac egni'r dyfodol, farw mor ieuanc?

Yr oedd gan Daniel Owen gariad angerddol at y ddisgyblaeth lem y credai ei fam mor llwyr ynddi, ac at y grefydd oedd wedi gweddnewid bywyd chymeriadau'r Wyddgrug. Yr oedd ganddo hefyd lygad i weled y llawenydd, y digrifwch, a'r direidi sydd mor hanfodol i natur ddynol iach ag ydyw tlysni ei liw i'r blodeuyn a fflach ei edyn i'r gloyn byw. Y mae i fywyd ei ddwy wedd, y ddofn ddifrifol a'r ysgafn chwareus Hoffa ambell genedl y naill, hoffa un arall y llall. Difrifwch bywyd, agosrwydd tragwyddoldeb, mawredd Duw a bychander dyn, a welai'r Hebrewr; ac y mae y Cymro, megis wrth natur, wedi ei ddilyn. Tlysni dedwydd bywyd welai'r Groegwr, prydferthwch natur a diddordeb byw; ac y mae'r Ffrancwr a'r Eidalwr fel pe'n ei ddilyn. Y mae y ddwy ochr yma ar fywyd i'w gweled yn meddwl pob llenor mawr yn ogystal ag yn meddwl pob cenedl fyw. Ar ddechre ei yrfa fel bardd dengys Milton y naill yn Il Penseroso a'r llall yn L'Allegro. Ac yn ei nofel gyflawn gyntaf dengys Daniel Owen y naill ym Mari Lewis a'r llall yn Wil Bryan.

Dyfnaf a dwysaf y meddwl, cryfaf y duedd at y difrif a'r prudd. Y mae islais dwfn o brudd-der ym mywyd pob cenedl fawr; ceir ef yn hen lenyddiaeth Groeg, ac yng ngherddoriaeth Spaen heddyw. Gwelir eiddilwch y darfodedig, a chadernid yr oesol; i rai y mae tynged yn ddall a chreulon a didrugaredd, i eraill y mae'n freichiau tragwyddol i gynnal y gwan. Er iddo ddisgrifio'r ddwy agwedd, y ddwys a'r ddedwydd, i wasanaeth y