Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawn o gymeriad fel hyn, gŵr meddylgar ymysg meibion llafur, a'i farn yn ddiwyro a'i galon yn llawn cydymdeimlad, y mae llenyddiaeth Cymru'n galw.

Cafodd Daniel Owen gyfle ardderchog i roddi i'w wlad gymeriad fuasai'n arweinydd i'w meddwl a'i bywyd. Rhoddodd ddarluniad o'r hen grefydd gadarn yn ei fam, a darluniad o'r hen hapusrwydd yn Wil Bryan; ond, pan aeth i ddarlunio ysbryd nerthol a hygar y dyfodol, llesghaodd, a gadawodd y darlun heb ei orffen. Y mae rhywbeth yn broffwydol iawn yng nghymeriad Bob, dengys fod Daniel Owen yn gweled yn glir i'r dyfodol, a gresyn na buasai wedi rhoi ei holl egni ar waith i ddarlunio Bob fel canolbwynt bywyd Cymru.

Pam na wnaethai hynny? Hwyrach fod ei frawd foddodd yn y pwll a Bob mor debig i'w gilydd yn ei feddwl fel na allai eu gwahanu. Ond, yn ddiameu, gwelodd Daniel Owen y gallasai wneud Bob yn arweinydd meddwl a bywyd; ac nid heb wybod beth a wnai y syrthiodd yn ol yn ddiymadferth oddiwrth y gwaith mawr. Gallai Daniel Owen, ar anogaeth fisol Roger Edwards, ddarlunio golygfa ddiddorol a chymeriad diddan, ond ni feddai ddigon o ymroad i ymdaflu i waith fuasai'n gofyn holl egni ei enaid am fisoedd a blynyddoedd i ddarlunio un cymeriad mawr. Cyfaddefodd wrthyf iddo orfod gadael i Bob farw oherwydd ei fod ef ei hun wedi cyrraedd diwedd ei adnoddau a therfyn eithaf ei egni. Pam y mae darlun Bob wedi ei adael mewn amlinell yn unig? Ateb Daniel Owen i mi oedd,—" Toedd gen i ddim digon o baent i'w orffen." Llesg iawn o gorff oedd