Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daniel Owen. Bu ei hanes yng nghyfres y "Cymry Byw" unwaith; ond dywedai mai yng nghyfres Cymry hanner marw y dylasai ef fod. Gwell iddo hwyrach, wedi'r cwbl, oedd dilyn ei duedd, a darlunio ei hoff gymeriadau, na phe bai wedi ymegnio i roddi ar len gymeriad fuasai'n ddarlun o fywyd llafur Cymru ac yn arweinydd iddi. Rhoddodd i ni Fari Lewis yn llawn a Wil Bryan yn llawn, a Bob mewn amlinell. Fel y mae, y mae'r Bob fu farw'n ieuanc yn allu ym mywyd Cymru. Yr ydym yn disgwyl am nofelydd arall, mwy hwyrach, i wneud y darlun yn llawn.