Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

EDRYCH YN OL

BU brenin Persia farw, a chludwyd ef at ei dadau. Yn araf ac yn ofnus esgynnodd ei fab yr orsedd yn ei le. A chofiodd am un o ddywediadau ei athraw, sef na buasai brenhinoedd mor dueddol i gamgymeryd pe gwyddent hanes y byd a'i bobl.

Felly, galwodd haneswyr goreu a chynghorwyr doethaf Persia at ei gilydd, a dywedodd wrthynt,— "Ysgrifennwch i mi hanes y byd yn fanwl, a bydded yr hanes yn gyflawn."

Ymhen ugain mlynedd, wele orymdaith yn cyfeirio at lŷs y brenin. Yr haneswyr oedd yno, wedi gorffen eu gwaith. Yr oedd gyda hwy ddeuddeg camel, a phob camel yn cludo pum can cyfrol. Yr oedd y brenin ieuanc erbyn hyn yn ymylu ar ganol oed o fywyd prysur a phryderus iawn, a dywedodd wrth yr haneswyr,— "Y mae bywyd yn fyr a llawn o ofalon, ewch yn ol, crynhowch yr hanes fel y bydd rhyw obaith i mi fedru ei ddarllen, eto heb adael unrhyw beth hanfodol allan o hono."

Ymhen ugain mlynedd wedyn, wele orymdaith lai, o wyr yn edrych yn hyn, yn dod at y llys. Gyda hwy yr oedd tri chamel, yn cludo pymtheg cant o gyfrolau. "Dyma hanes y byd mewn cwmpas llawer llai," ebe'r haneswyr, "ac eto nid oes dim hanfodol wedi ei adael allan." Ond