Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PEN YR YRFA

A MI, ar ryw fin nos, yn ystyried fy mywyd ffwdanus a diles, bywyd o gyfleusterau wedi eu colli a gwaith heb ei wneud, gwelais mor wir yw fod ein blynyddoedd yn mynd ymaith fel chwedl; a theimlais nad oes nofel a ddarllennir gan enethod ysgolion mor wagsaw, mor arwynebol, ac mor ddibwrpas a'm bywyd i.

Oddiwrth hynny troais, nid at fater llai prudd, ond at fater mwy dyrchafol. Sawl blwyddyn gafodd y rhai wnaeth waith parhaol at ei wneud? Ac er mwyn ateb fy nghwestiwn, a fflangellu tipyn arnaf fy hun wrth wneud, cynhullais hynny o lyfrau a feddaf, a chwiliais am enwau adnabyddus imi, er mwyn gweled beth oedd hyd eu bywyd. Wnaeth rhywun ym myd llenyddiaeth Cymru rywbeth arhosol dan bump ar hugain. Dyma oed Keats pan fu farw, wedi canu ei "Eve of St. Agnes." Bu Ieuan Ddu farw'n un ar hugain oed, ond erys ef, nid yn ei waith ei hun, ond yn hiraeth ingol Gomer ei dad; oni bai am hynny, buasai'r bachgen hoffus wedi ei anghofio ym mywyd cyffredin ei ardal,—

"Llama'r bydd dros froydd a bryniau,
Ffy'r cymylau gyda'r gwynt;
Hwylia'r llongau dros y weilgi,
Llifa Tawy megis gynt."

Dwy ar hugain oed oedd Golyddan pan fu farw, wedi canu ei arwrgerdd i'r Iesu; yr oedd ei nôd