Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn uchel a'i uchelgais yn ysol, ond ni aeddfedodd ei awen i'w melyster na'i thlysni naturiol. Pedair blwydd ar hugain gafodd Gwenffrwd i deimlo a meddwl a theithio, ac yr oedd cysgodion oerion ar ei fywyd, er mor felodaidd oedd ei gân. Bu Ben Bowen farw'n bump ar hugain; tlysni'n ymagor, tlysni'n proffwydo perffeithrwydd yn y man, oedd tlysni ei awen ef; a galarodd holl gymoedd Morgannwg ddiffodd ei lusern mor gynnar.

O'r pump ar hugain i'r deg ar hugain, ceir beirdd rhyfedd yng Nghymru. Bu Robert Owen, bardd y môr, farw'n alltud pell, wedi crynhoi profiad bywyd dwys a hiraethlawn i saith mlynedd ar hugain. Gall bardd ieuanc adael cân i gadw'i gof yn wyrdd, ond anodd i hynafieithwr adael gwaith parhaol heb fywyd hir; bu farw Mannoethwy hefyd yn saith ar hugain oed. Bu dau farw'n naw ar hugain oed, y naill wedi canu emyn a'r llall alaw, "Bydd melys gofio y cyfamod" a "Chodiad yr Ehedydd,"—nas gallasent wneud eu perffeithiach pe cawsent fyw i eithaf terfyn yr addewid. A hwyrach y gellir dweyd am Sadie fod ei hawen yn aeddfed pan syrthiodd i'r bedd yn ddeg ar hugain oed. Tua'r deg ar hugain y cwympodd Hedd Wyn yn Ffrainc, wedi canu rhai pethau perffaith; gwisgwyd Cader Eisteddfod Birkenhead mewn du dydd ei goroni, ac yntau yn ei fedd yn nhir yr estron. Dwy flynedd a deugain cyn hynny y gwisgwyd cader Taliesin o Eifion mewn du yn Eisteddfod Wrecsam; ond nid oedd pruddder mor ingol.

Rhwng y deg ar hugain a deugain y mae dyn wedi darganfod ei rym ac yn gweled gwaith ei