Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i lu o efrydwyr llenyddiaeth ac arluniaeth Cymru. Yn 43 y bu farw J. D. Jones o Ruthyn hefyd, wedi clywed adlais addysg a miwsig y dyfodol. Bu Gwilym Marles a Huw Myfyr farw'n 45, y naill wedi gadael ar ei ol olygfeydd bore oes oroesa hanes ei fywyd egniol, a'r llall wedi cyrraedd naturioldeb bardd y medr pawb ei ddeall. Pump a deugain oedd Viriamu Jones hefyd pan gollodd addysg Cymru wasanaeth ei feddwl clir a mwyn. Bu Islwyn farw'n 46, pan yn cynllunio unoliaeth y "Storm"; ond yr wyf yn credu y bydd y darnau, fel y maent, yn fwy o ysbrydoliaeth i feddwl Cymru na phe rhoddasai'r awdwr linyn mesur canol oed ar y gân.

Yr un oed oedd Dan Isaac Davies a Mynyddog, y naill yn llawn cynlluniau, a'r llall wedi cyrraedd perffeithrwydd ei ganeuon gwerin. Yn 47 bu farw Goronwy Owen a Threbor Mai, digon i brofi y medrir gwneud cywydd perffaith ac englyn perffaith yn yr oed hwnnw. Yn 48 bu farw R. H. Morgan a Iorwerth Glan Aled, y ddau anhebycaf i'w gilydd yn llenyddiaeth Cymru; y naill a'i feddwl llym beirniadol yn glir fel y grisial, a'r llall fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynydd- oedd. Dyna oedd oed Syr Edward Anwyl hefyd. Bu Tudno farw'n 49, wedi canu un gân fydd byw. O'r hanner cant i'r trigain oed, y mae dynion yn anterth eu nerth, wedi cael clust eu gwlad ac heb eto ystyried a ydyw yn iawn iddynt wneud cynlluniau newydd cyrhaedd bell. Y mae llawer o wendidau corff yn darfod fel yr eir ymlaen, a dyn megis angel anfarwol. Yn 51 bu farw Howell Davies yr efengylydd, Ab Ithel yr hanesydd gwladgarol, Charles Ashton y cynhullydd ffeithiau, ac Eos Morlais y canwr. Yn 52 bu farw Gomer,