Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cawrdaf, a Ieuan Gwyllt; Gomer wedi byw mwy na dwbl oes Ieuan Ddu, Cawrdaf wedi ysgrifennu'r nofel Gymraeg gyntaf, a Ieuan Gwyllt wedi rhoi bywyd newydd yng nghanu cysegr Cymru. Yn 52 hefyd y rhoddodd Tom Jones ei fywyd i lawr yn Ne Affrig. Yn 53 bu farw dau fardd mwyn yn hannu o'r un sir, Ossian Gwent a Ioan Emlyn. Bu farw Glan y Gors, Daniel Ddu o Geredigion, Thomas Stephens, ac Ossian Davies, yn 54. Yn 55 y bu farw Glan Alun, Hugh Price Hughes, Ceiriog, Emrys ap Iwan, a Rhys J. Huws. Yn 56 y bu farw'r Gohebydd, Jenkin Howell, Tudur Taf, a thri wŷr o sir Aberteifi,—Ebenezer Morris, Ebenezer Richard, a'r Esgob Llwyd. Bu'r ddau gyfaill, Dewi Wyn a J. R. Jones o Ramoth, farw yn yr un oed, sef 57; a dyna hefyd oedd oed John Phillips Bangor, Myfyr Emlyn, John Evans Eglwys Bach, ac Edith Wynne. Yn 58 y bu farw Ieuan Brydydd Hir, Morgan Howell, a Goleufryn. Bu cewri farw yn 59,—Howell Harris, Charles o'r Bala, Dr. George Lewis, Williams o'r Wern, Humphrey Gwalchmai, John Ambrose Lloyd, a Thalhaearn. Yn oedran hafaidd y drigeinfed flwydd bu farw Ioan Tegid, Ieuan Glan Geirionnydd, Richard Jones y Wern, Emrys, Mrs. Watts Hughes, a Herber Evans.

Wrth weled oed Talhaearn yn marw, y mae'n sicr y daw cân Ceiriog, "Cyfoedion Cofadwy," i'r cof. Rhwng hanner nos ac un yr oedd cwmni difyr o feirdd yn eu llawn hwyliau,—Iorwerth Glan Aled a Rhydderch o Fôn, Creuddynfab a Glasynys, Talhaearn a R. Ddu o Wynedd, a Cheiriog ei hun. Ar yr awr drymaidd honno curodd genethig wrth y drws, a holodd am "Iorwerth Glan Aled