Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

CASGLIAD o erthyglau amrywiol a gyflwynir i dy sylw y tro hwn, ddarllenydd o Gymro.

Cyhoeddodd yr awdur, flynyddoedd yn ol erbyn hyn, lyfr a'i deitl,—ER MWYN IESU. Gallesid galw'r llyfr hwn o dan yr un teitl, yr un delfryd a symbyla'r ddau lyfr; i Owen Edwards nid oedd gwahaniaeth rhwng ER MWYN IESU ac ER MWYN CYMRU.